|
Costau
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno gwybod costau tebygol unrhyw
fater cyfreithiol. Mewn rhai trosglwyddiadau, megis gwerthu, prynu
annedd, tir neu fferm, gallwn osod pris pendant wedi ei seilio ar
ganran o’r ystyriaeth neu bris ynghyd â gwariadau. Codir
TAW ar y raddfa Statudol. Mae hwn yn berthnasol i waith Stadau hefyd.
Mewn meysydd practis eraill, rydym yn codi tâl wrth yr awr.
Gellir cael y graddfeydd tâl hyn rhag blaen, yr hyn a eglurir
yn ein llythr “Gofal Client” a ddanfonir ar y cychwyn
cyntaf. Mae’r amser a dreulir yn dibynnu ar y mater o dan
sylw, natur y mater a chymhlethdod y pwnc.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn ddarparu amcangyfrif o’r
costau a chroesawn unrhyw ymholiadau parthed costau ar y cychwyn.
|